ER MWYN MWYNHAU STORI DDA
Llyfrau Cymraeg
i blant. Antur ar
bob tudalen.
O’r geiriau cyntaf i “un dudalen arall”. Darganfyddwch storïau Cymraeg a dwyieithog lliwgar i’w darllen, eu caru a’u rhannu gyda’ch gilydd.
POB OEDRAN. POB ANTUR.
Lle da i ddechrau
Y SILFF LYFRAU
Dyma eu ffefryn nesaf.
CASGLIAD Y NADOLIG
Stori o dan
bob coeden.
Syrpreisys bach. Ffrindiau cyfarwydd. Llyfrau Nadolig Cymraeg a dwyieithog i’w hagor a’u rhannu.
AGOR BYD O STORÏAU
Darllenwyr bach.
Posibiliadau di-ben-draw.
Dwy iaith. Un stori hyfryd.
Darganfyddwch lyfrau dwyieithog Cymraeg a Saesneg i’w darllen gyda’ch gilydd, beth bynnag fo’ch hyder yn y Gymraeg.
Darganfod llyfrau dwyieithog
Gwrandewch ar stori.
Clywed y geiriau, mwynhau’r stori. Darganfyddwch ein llyfrau llafar Cymraeg am ddim i gyd-fynd â’r llyfrau rydych chi’n eu caru.
Gwrando ar storiYCHYDIG O HELP I DDEWIS
Pa stori fydd
yn mynd â’u bryd?
Llyfr cyntaf, cymeriad cyfarwydd neu antur i’w darllen gyda’ch gilydd? Dechreuwch gyda’u hoedran a’u diddordebau. Os ydych yn chwilio am deitl penodol, byddwn yn hapus i helpu.
Gofyn am argymhelliadBle dylwn i ddechrau gyda llyfrau Cymraeg i blant?+
Dechreuwch gyda’r pethau mae’ch plentyn eisoes yn eu caru. Rhowch gynnig ar lyfrau geiriau cyntaf lliwgar a storïau codi’r llabed i’r rhai bach, llyfrau lluniau i’w rhannu, neu storïau hirach i ddarllenwyr sy’n tyfu. Mae ein casgliadau yn ôl oedran yn lle da i ddechrau.
Oes gennych chi lyfrau dwyieithog Cymraeg a Saesneg?+
Oes. Mae ein casgliad dwyieithog yn cynnwys llyfrau â thestun Cymraeg a Saesneg. Chwiliwch am y label rhifyn dwyieithog a darllenwch ddisgrifiad y llyfr i ddod o hyd i’r rhifyn cywir i’ch teulu.
Alla i wrando ar y storïau yn Gymraeg?+
Gallwch. Ewch i’n tudalen llyfrau llafar Cymraeg am ddim i weld pa recordiadau sydd ar gael. Mae’n ffordd hyfryd o glywed geiriau Cymraeg wrth fwynhau stori gyda’ch gilydd.
Sut alla i ddod o hyd i lyfr penodol?+
Defnyddiwch y chwilio ar frig y dudalen neu porwch yn ôl oedran, awdur neu gyfres. Os na allwch ddod o hyd i’r teitl rydych yn chwilio amdano, e-bostiwch post@drefwen.com a gwnawn ein gorau i helpu.







