“ … Codasom autovía arall wrth Puerto Lumbreras, ac ymhen
ychydig roeddem yn Andalucía. Rhywle ffordd yma hefyd croeson ni’r ffin i hen
deyrnas Granada …”
Mae llyfrau
taith Roger Boore yn unigryw am eu cyfuniad gogleisiol o’r presennol a’r
gorffennol – o ddisgrifiadau cyfoes lliwgar a hanesion gafaelgar o’r oes a fu.
Yn yr antur
hon mae’r awdur a’i wraig yn crwydro rhai o fannau harddaf, hynaf a hynotaf Andalucía,
yn cynnwys Córdoba, Sevilla, al-Zahra a’r Alhambra ledrithiol. Ceir sôn hefyd
am swltanau Arabaidd anghofiedig, Rhyfel Cartref 1936-9, llofruddiaeth Lorca, a
hirymarhouster rhyfeddol Manuel Cortés, a fu’n cuddio am 30 o flynyddoedd rhag
dialedd Franco …
Ond yn y
cyfamser, yn Wembley, mae’r Adar Gleision yn ymgiprys am Gwpan yr FA! …