Taith i Awstralia

£8.99

Tua 1900 ymfudodd Capten Fred Boore o Awstralia i Gaerdydd ddim mor rhyfedd, hwyrach, yn oes anterth y glo. Dros gan mlynedd wedyn aeth ei ŵyr Roger gydag Anne ei wraig ar drywydd yr hen longwr

 Dyma hanes eu hanturiaethau difyr, doniol neu drychinebus yn y wlad wyneb-i-waered: tapestri amryliw o didgeridoos a chargrilled bugs, trefi aur a fforestydd glaw, bwmerangs a Chinatowns, coalas, crocodeilod, criced a Chynfrodorion, a llu o Awstraliaid cyfeillgar ffraeth y genedl siriolaf dan haul  

Ymwelwn Melbourne (ai hysbyty, gwaethar modd!), Sydney ai fferis ai phengwinod, riffiau Cairns, y batri aur yn Charters Towers, Ballarat, Brisbane, Townsville, Culfor Torres

Cawn glywed hefyd am rai o Gymry Awstralia o enwogion fel y Prif Weinidog William Morris Hughes hyd at yr anffodusyn Owen Owens, ai chwythodd ei hun i dragwyddoldeb chasgen rum. Ac nac anghofiwn am yr eisteddfodau

  


Add to Cart:

  • ISBN: 9781855968165

Hawlfraint © 2017 Dref Wen. Powered by Zen Cart.